certifications

Pam Cymreig?

Y Ffordd Gymreig

Mae ffermwyr Cymru yn enwog ledled y byd am gynhyrchu cig oen a chig eidion gyda blas nodedig o safon fyd-eang. Mae’r amgylchedd nad yw’n ddwys lle mae defaid a gwartheg yn cael eu magu yn datblygu cig suddlon, melys a thyner. Ers canrifoedd, mae defaid a gwartheg wedi ffynnu ar y glaswelltir naturiol sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn, yn un o gorneli mwyaf digyffwrdd y byd.

Y Ffordd Gymreig

Blas o'r Safon Gorau

Mae hinsawdd unigryw a thirwedd ffrwythlon Cymru yn darparu’r amgylchedd perffaith ar gyfer magu cig o ansawdd a blas rhagorol. Dysgwch fwy am rinweddau blas Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy glicio isod.

Ansawdd Blas

Cynaladwyedd

Yng Nghymru, mae’r mwyafrif llethol o gig eidion a chig oen yn cael eu magu drwy ffermio nad yw’n ddwys, sy’n dibynnu ar ddigonedd o laswellt a glawiad yn hytrach na phorthiant sy’n defnyddio llawer o ynni – sy’n golygu mai Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy ar y Ddaear i gynhyrchu cig coch. Dysgwch fwy am rinweddau cynaliadwyedd cig coch o Gymru isod.

Cynaladwyedd

Iechyd a Maeth

Yn naturiol gyfoethog mewn protein, haearn, potasiwm, zinc, fitaminau B, fitamin D ac Omega 3 – mae cig coch Cymru yn ddewis buddiol fel rhan o ddeiet iach a chytbwys. Dysgwch fwy am fanteision iechyd a maeth cig coch Cymreig isod.

Iechyd a Maeth

Statws PGI a GI

Mae safonau PGI a GI y DU yn sicrhau bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ei amgylchedd a thraddodiadau i gyd yn unigryw ac yn cael eu gwarchod. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn y pen draw yn galluogi defnyddwyr i gael hyder yn y gadwyn gyflenwi ac i gysylltu â chymeriad penodol y cynhyrchion. Nid hawliad yn unig yw olrheiniadwyedd llawn; mae’n sicrwydd wrth gyflenwi Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.

PGI a GI y DU

Cymorth HCC

Pan fyddwch yn dewis i stocio brandiau Cymreig, byddwch hefyd yn elwa o lu o gefnogaeth gan Hybu Cig Cymru (HCC). HCC yw’r sefydliad a arweinir gan y ddiwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru, ac felly, gallwn weithio gyda chi i gefnogi yn y meysydd hyn. Dysgwch fwy am y cymorth y gall HCC ei gynnig isod.

Cymorth HCC