certifications

Farchnad Gartref

Blas, cynaliadwyedd, iechyd a maeth sydd wrth wraidd stori Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Os ydych chi’n caru’r cig rydych chi’n ei werthu, dylech chi weithio gyda ni, a’n ffermwyr. Yn cael eu cydnabod am ansawdd eu cynnyrch, mae ein ffermwyr wedi defnyddio dulliau traddodiadol mewn amgylchedd unigryw ers blynyddoedd. Daw dibynadwyedd, ansawdd a blas yn rhan annatod o’n harlwy Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru a fagwyd yn gynaliadwy.

Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod mwy am sut y gallwn eich helpu i ddod o hyd i, gwerthu a marchnata Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Byddai ein tîm masnach wrth eu bodd yn clywed ohonoch. Gwelwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth yn benodol i’ch sector.