certifications

Gwasanaeth Bwyd

Gweithio gyda Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI

O’r blas eithriadol a’r manteision maethol i’r traddodiadau a’r amgylchedd unigryw y cynhyrchir Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI ynddynt, gall eich cwsmeriaid fod yn hyderus eu bod yn dewis cynnyrch premiwm. Mae’r tystiolaeth ymhob cegaid.  Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn gefnogi eich busnes. 

Sut gallwn ni eich cefnogi chi

Rydym yn gweithio gyda’r sectorau gwasanaeth bwyd, cyfanwerthu a lletygarwch i gefnogi datblygiad gwerthiant ein brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae pwynt gwerthu ar gyfer cyflwyniad cwsmeriaid, sesiynau blasu mewn siopau cyfanwerthu a gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus ar y cyd yn rhai o’r ffyrdd y fedrwn ni eu harchwilio gyda’n gilydd. Cysylltwch â’n tîm datblygu marchnad heddiw a fydd yn gallu teilwra rhaglen bartneriaeth i gyflawni eich anghenion busnes.