Clwb Cigyddion
Croeso i'r Clwb Cigyddion
Cefnogi ein cigyddion sy'n dewis Cig Oen Cymreig PGI a Chig Eidion Cymreig PGI
Gyda dros 200 o aelodau ledled Prydain Fawr, mae yna lawer o fuddion i fod yn aelod o Glwb y Cigydd. Am ddim i ymuno, mae aelodau’n elwa o’n hymgyrchoedd marchnata cenedlaethol ac yn derbyn pwynt gwerthu tymhorol i wella eu harddangosfeydd, cyngor labelu, cysylltiadau a rhwydwaith, cefnogi gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus a gwahoddiadau i ddigwyddiadau unigryw.
Deuneydd Man-werthu a Lawrlwythiadau Am Ddim
Pan ymunwch â Chlwb y Cigyddion, byddwch yn derbyn POS wedi’u brandio i helpu gyda’ch hyrwyddiadau gwerthu fel trywanwyr cig, tagiau, labeli a thaflenni ffeithiau. Gallwch hefyd lawrlwytho deunydd addysgiadol a delweddaeth ar gyfer eich gwefan a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Pwy gall ymuno?
Mae’r Clwb Cigyddion yn agored i fanwerthwyr a all brofi eu bod yn gwerthu Cig Oen Cymreig PGI neu Gig Eidion Cymreig PGI o ffynonellau gan gyflenwyr sydd wedi’u hardystio’n annibynnol. Dim ond wedyn y gallant ddefnyddio logo a nodau masnach Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) chwaethus.
Deunydd Man-Werthu Tymhorol Am Ddim
Gall aelodau o Glwb y Cigyddion ddewis derbyn citiau POS tymhorol yn awtomatig. Mae’r citiau hyn yn cynnwys llyfrynnau ryseitiau a chanllawiau torri cig i’w rhoi i gwsmeriaid, ynghyd â deunyddiau hyrwyddo gan gynnwys posteri, sticeri ac eitemau eraill.
Buddion y Clwb Cigyddion