Ansawdd Blas

Mae'r prawf ymhob blas

Mae bwyd blasus a gynhyrchir yn fedrus yn ei amgylchedd naturiol yn arwain at gynnyrch o safon. Nid yw Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn eithriad. Mae gweiriau toreithiog a pherlysiau gwyllt sy’n cael eu maethu gan law trwm yn darparu llawer o’r porthiant sy’n trwytho’r cig gyda’i flas Cymreig rhagorol a’i wead eithriadol. Gydag amlochredd di-ben-draw a blas rhagorol, mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffefryn mawr ymhlith cogyddion cartref, cogyddion gorau a chynghorwyr bwyd arbenigol.