Porc Blasus

Ymfalchïwch eich bod yn hyrwyddo Porc Blasus.

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ansawdd – ond ni ddylem anwybyddu’r porc a gynhyrchir gennym chwaith. Mae proffil y diwydiant porc yng Nghymru’n tyfu, ac mae yna stori anhygoel i’w hadrodd.

Ewch i'n wefan Porc Blasus

Beth sy'n gwneud ein porc mor arbennig?

Mae moch Cymru yn derbyn pob gofal, ac yn cael eu cadw heb straen, i gynhyrchu porc mwy blasus. Wrth bori mewn amgylchedd gwbl naturiol lle mae amrywiaeth eang o faethynnau a mwynau, mae’r moch a gafodd eu geni a’u magu yng Nghymru yn cynhyrchu porc unigryw sy’n flasus a brau. Mae’n cael ei gydnabod fel porc sydd gyda’r gorau y bydd eich cwsmeriaid yn ei flasu.