Statws PGI a GI y DU
Darganfyddwch y manteision o stocio a gweithio gyda Chig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI
Mae marciau Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Dynodiad Daearyddol y DU (GI) yn sicrhau ansawdd ac olrheinedd yn ogystal a pwynt gwerthu unigryw clir ar gyfer y cynhyrchion. Yn hollbwysig, trwy ddefnyddio’r logos PGI a GI, mae gan ein cynhyrchwyr cig oen a chig eidion yr hawl unigryw i wahaniaethu rhwng eu cynnyrch a rhai cystadleuwyr yn y marchnadle. Mae cydnabyddiaeth PGI / GI yn y pen draw yn caniatáu ichi gael hyder yn y gadwyn gyflenwi ac i’r defnyddiwr gysylltu â chymeriad penodol y cynhyrchion. Nid hawliad yn unig yw olrheiniadwyedd llawn; mae’n sicrwydd, gyda phob oen yn cael ei dagio a’i olrhain yn ôl i gynhyrchwyr unigol.
Does dim byd tebyg iddo
Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymry yn cael eu gynhyrchu ar borfeydd gwyrdd, ffrwythlon y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd. Yn yr hinsawdd dymherus, mae’r pridd sy’n llawn mwynau a’r amgylchedd glan yn plethu’n berffaith i gynhyrchu cig coch o safon uchel.