Ymgyrchoedd Defnyddwyr
Yn ogystal â’r cymorth masnach y byddwch yn ei dderbyn gan ein tîm masnach ymroddedig, wrth weithio gyda Chig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru neu porc o Gymru byddwch hefyd yn elwa o’n hymgyrchoedd defnyddwyr blynyddol.
Pob blwyddyn, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn buddsoddi’n drwm mewn marchnata ac rydym yn cynnal ymgyrchoedd defnyddwyr proffil uchel, cwbl integredig, sy’n rhychwantu sianeli traddodiadol a digidol ledled y DU.
Mae ein hymgyrchoedd marchnata arobryn yn sicrhau bod Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru ar flaen y gad ym meddyliau miliynau o siopwyr ar adegau allweddol pan fydd y cynnyrch yn ei dymor.
Marchnata Digidol
Yn ddiweddar, mae tîm HCC wedi bod yn tyfu eu presenoldeb digidol yn gynyddol ac yn targedu cynulleidfaoedd ar-lein parod a derbyngar gyda galwad clir i weithredu i ymweld â siopau a phrynu Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru. Mae hyn wedi arwain at yr ymgyrch ‘Unigryw i Gymru’ ar gyfer Cig Oen Cymru a gyrhaeddodd dros 3 miliwn o ddefnyddwyr, yr ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ ar gyfer Cig Eidion Cymru ac ymgyrch ‘pa mor bell yw ein porc oddi wrth eich fforc’ ar gyfer porc o Gymru.
Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae HCC wedi datblygu hunaniaeth brand cryf ar gyfer Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru, ac rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda’r wasg a’r cyfryngau i ledaenu negeseuon allweddol cadarnhaol y brandiau sef blas, cynaliadwyedd a maeth. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â phrif gogyddion a dylanwadwyr bwyd ar ymgyrchoedd marchnata dylanwadwyr i yrru’r galw am y brandiau ymhellach.