Cynaladwyedd

Sustainability

Mae bryniau gwyrdd Cymru a glawiad toreithiog yn creu’r amgylchedd perffaith ar gyfer cynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI blasus a naturiol. Mae ymchwil annibynnol wedi dangos bod allyriadau o ffermydd da byw Cymru ymhlith yr isaf yn y byd. Mae ffermwyr Cymru yn gofalu am eu tir gan ddefnyddio arferion traddodiadol, a drosglwyddir ar hyd y cenedlaethau, a gyda’r profiad hwn ac erwau o laswelltir, nid yw’n syndod bod Cymru ymhlith y lleoedd mwyaf cynaliadwy i gynhyrchu cig oen a chig eidion.