Iechyd a Maeth

Iechyd a Maeth

Yn naturiol gyfoethog mewn protein, haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, fitaminau B a Fitamin D, mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ddewis buddiol fel rhan o ddeiet iach a chytbwys. Mae Omega 3 hefyd yn faethol gwrthlidiol hynod bwysig sy’n hanfodol ar gyfer iechyd yr ymennydd, iechyd y galon ac atal clefydau cronig, a chanfu ein prosiect Ymchwil Ansawdd Bwyta diweddar fod digonedd o Omega 3 mewn cig coch sy’n cael ei fwydo ar laswellt, fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.